Ymunwch â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych

Mae Cymru wedi ennill ei lle fel trydedd genedl orau’r byd am ailgylchu, ond mae angen inni fynd ymhellach. Ailgylchu gwastraff bwyd yw’r maes lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf, gan helpu i greu ynni adnewyddadwy ar yr un pryd!

Yr hydref hwn, mae Cymru yn Ailgylchu yn galw ar blant 8 i 11 mlwydd oed i helpu creu dyfodol mwy cynaliadwy lle’r ydym yn gwastraffu llai ac yn ailgylchu mwy.

Ymunwch â’r Ymgyrch a gadael i’ch disgyblion ddarganfod y broses hynod sy’n troi gwastraff bwyd yn bŵer i Gymru, a dysgu ffeithiau difyr fel sawl croen banana wedi’i ailgylchu mae’n ei gymryd i bweru eu dyfeisiau.

Archwiliwch ein gweithgareddau sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, a ellir eu defnyddio hefyd fel rhan o’ch tystiolaeth Eco-Sgolion. Dyma fanylion eich Ymgyrch:

Cam 1. Cyflwyno Briff yr Ymgyrch: Mae gwastraff bwyd yn creu ynni gwyrdd – a gallwn ni, fel dinasyddion gweithgar, helpu!

Cam 2. Dewis eich Ymgyrchoedd: Cwblhewch un, ddau, neu bob un o’r tri gweithgaredd ystafell ddosbarth difyr.

Cam 3. Herio eich disgyblion gyda’r gystadleuaeth gwaith cartref: Dylunio sticer ar gyfer y cadi gwastraff bwyd.

O’r cadi cegin i ynni adnewyddadwy – darganfod beth sy’n digwydd i wastraff bwyd yng Nghymru .

Yr Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych

Yn gyntaf, darllenwch y canllaw i athrawon i weld beth yw’r ymgyrch, yna cofrestrwch eich manylion i lawlrwytho’r sleidiau ystafell ddosbarth a’r her gwaith cartref.

8 i 11 oed

Dyniaethau

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mathemateg a Rhifedd

Iaith a Llythrennedd

Eco-Sgolion

Canllaw i athrawon

Trosolwg o’r adnoddau a dolenni’r cwricwlwm.

Gweld yr adnodd

Adnoddau i fyfywyr

Cofrestrwch i lawrlwytho sleidiau’r ystafell ddosbarth, gwersi a gweithgaredd gwaith cartref.

Gweld yr adnodd

Diolch yn fawr am ymuno â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych.


Defnyddiwch y sleidiau ystafell ddosbarth i gynnal gweithgareddau hyblyg sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm, yna rhannwch y gweithgaredd gwaith cartref (a’r sticeri!) er mwyn i’ch disgyblion gael cymryd rhan mewn cystadleuaeth ddifyr.

I gael yr adnoddau rhad ac am ddim hyn, llenwch y ffurflen syml hon

    Trwy roi tic yn y bocs uchod i gofrestru i dderbyn diweddariadau a chyfleoedd ymchwil, rydych yn rhoi caniatâd i Cymru yn Ailgylchu/WRAP Cymru/Recycle Now/WRAP ddefnyddio'r wybodaeth hon i anfon diweddariadau atoch a chyfleoedd ymchwil ar e-bost, ac rydych yn cytuno y cawn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroednodyn unrhyw e-bost marchnata a dderbyniwch gennym neu drwy gysylltu â data.protection@wrap.org.uk. Gallwch weld polisi preifatrwydd Cymru yn Ailgylchu i gael rhagor o wybodaeth. Byddwn yn rhannu eich data gyda'n partner asiantaeth EVERFI (polisi preifatrwydd) sy'n rheoli'r Pecyn Gweithredu ar ran Cymru yn Ailgylchu/WRAP Cymru, a gallai gael ei rannu gyda'u partenriaid argraffu a chyflawniad Gemini (polisi preifatrwydd), a phartneriaid cylchlythyr e-bost Dotdigital (polisi preifatrwydd) a'r Cwmni Marchnata Ysgolion (polisi preifatrwydd).